About Me

Amdanaf Fi


Dr Delyth Badder is a folklorist, author, and antiquarian book collector who has channelled a lifetime’s interest in Welsh folklore into academic study, and an extensive library of some of Wales’s rarest antiquarian folkloric texts. She has expertise in Welsh death omens and apparitions, with particular academic interest in the appearance of spirits within the Welsh tradition. 

She has been appointed as an Honorary Research Fellow in folklore with Museum Wales, and is currently pursuing a masters degree in this field at Cardiff University.

She also has an academic interest in the nineteenth-century Neo-Druidic movement in Pontypridd, and the life and work of archdruid and surgeon, Dr William Price. 

As well as being a regular contributor to discussions on Welsh folklore in the media, Delyth has co-authored 'The Folklore of Wales: Ghosts' with researcher and podcast host Mark Norman - an exciting new study of Welsh ghost-lore through the ages examined through a contemporary lens, using rare, unpublished and never before translated material. 

Delyth also works for the NHS as the world’s first Welsh-speaking Consultant Paediatric and Perinatal Pathologist, and as a Medical Examiner for the Welsh Medical Examiner’s Service

Based in Pontypridd, Wales, Delyth lives with her husband, award-winning children’s author Elidir Jones, and their two rescue dogs, Magi Mai and Mostyn Madog (along with an unconfirmed number of ghosts) in their nineteenth century roundhouse cottage built by Dr William Price. 



Mae Dr Delyth Badder yn lên-gwerinydd, yn awdur, ac yn gasglwr brwd o lyfrau hynafiaethol prin, sydd wedi sianelu diddordeb oes i astudiaeth academaidd o lên gwerin Cymru. Mae ganddi arbenigedd mewn rhagarwyddion marwolaeth ac ysbrydion yng Nghymru, gyda diddordeb academaidd arbennig mewn ymddangosiad ysbrydoedd o fewn y traddodiad Cymreig. 

Mae wedi ei phenodi yn Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus mewn llên gwerin gydag Amgueddfa Cymru, ac ar hyn o bryd, yn ymchwilio i ymddangosiad ysbrydoedd ar gyfer gradd feistr mewn Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd ym Mhrifysgol Caerdydd. 

Mae ganddi hefyd ddiddordeb academaidd yn y symudiad neo-Dderwyddol ym Mhontypridd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac ym mywyd a gwaith yr archdderwydd a'r llawfeddyg, Dr William Price.

Yn ogystal â chyfrannu'n gyson i drafodaethau yn y cyfryngau ynghylch llên gwerin Cymreig, mae Delyth wedi cyd-awduro The Folklore of Wales: Ghosts gyda'r ymchwilydd a phodledydd Mark Norman. Cynigai'r llyfr astudiaeth gyfoes a chyffrous o lên gwerin ysbrydion Cymru drwy'r canrifoedd gan ddefnyddio deunydd prin sydd heb ei gyhoeddi na'i gyfieithu erioed o'r blaen.

Mae Delyth hefyd yn ymgynghorydd i'r GIG, yn gweithio fel y Patholegydd Pediatrig Cymraeg cyntaf erioed, ac fel Archwilydd Meddygol i Wasanaeth Archwilwyr Meddygol Cymru.

Yn wreiddiol o Bwllheli, mae Delyth bellach wedi ymgartrefu yn un o dai crynion Dr William Price ym Mhontypridd gyda'i gŵr, yr awdur Dr Elidir Jones, a'u dau gi achub, Magi Mai a Mostyn Madog (ynghyd â nifer amhenodol o fwganod).


Contact | Cysylltwch:

Send me your Welsh ghost stories and folklore, or get in touch to collaborate

Gyrrwch eich straeon ysbryd neu lên gwerin Cymreig draw, neu cysylltwch i gydweithio


delyth@folklorewales.com

TwitterFacebookInstagramLinkedIn